|
..
CYFOETH Y BYD
..
NODIADAU MAES AR GYFER AIL-DDYFEISIO
ENGLISH VERSION
Nid yw bob amser yn beth doeth i'r artist ddweud gormod am ei waith ei hun; mae modd ei or-esbonio a'i or-resymoli. Fodd bynnag, gall gwneud "nodiadau maes" fod yn weithgaredd buddiol gan fod y rhain yn dweud wrth yr artist ble y mae, a sut y cyrhaeddodd yno. Mae'r darnau hyn o ysgrifennu, y nodiadau maes hyn, yn cael eu crynhoi ynghyd er lles i mi yn gymaint ag i'r darllenydd. Mae rhannau ohonynt yn ddarnau o draethodau gyhoeddwyd yn gynharach yn Planet a rhannau ohonynt o bapur gyflwynwyd i gynhadledd dan yr enw Cyfoeth y Byd ym 1999.
Yn ei lyfr, Picasso's Mask1, mae Andre Malraux, y nofelydd a'r athronydd o Ffrainc, yn cyflwyno'r syniad o 'Amgueddfa heb Furiau'. Mae'r llyfr, sy'n fyfyrdod ar gelfyddyd yn gymaint ag ydyw yn astudiaeth o Picasso, yn adrodd profiad yr awdur pan gafodd ws gan weddw Picasso i ddethol gweithiau o gasgliad lluniau ei chyn r, casgliad oedd wedi ei fwriadu ar gyfer y Louvre. Wrth edrych ar rai darnau o'i waith ac wrth ystyried y dylanwadau a ddarganfuwyd ac a feddiannwyd gan Picasso, mae'n dwyn i gof ddarnau o sgyrsiau rhyngddo â Picasso. Mae Malraux hefyd yn rhestru'r gweithiau celf a'r lleoedd yn y byd y mae'n eu cynnwys yn ei 'Amgueddfa heb Furiau' ei hun. Mae'n tynnu ar storfa helaeth o ddylanwadau celfyddydol, "gwrthdrawiad canrifoedd" yn wir, a storfa sy'n cwestiynu ei syniadau goleuedig Ewropeaidd am esblygiad diwylliannol cynyddol. O gerflunwaith Neo-Swmeraidd 2150 CC yn y Louvre, i Las Meninas Velasquez yn y Prado, o Olympia Manet i symbol ffrwythlondeb Mesopotamaidd; o gasgliad Apollinaire o arteffactau yn ei fyfyrgell, i Eglwysi Cadeiriol Romanésg; rhyddid o hualau Ewropeaidd hanes fel sy'n amlwg mewn celfyddyd Affricanaidd; harmoni celfyddyd Hindaidd a darnau rhyfeddol o gelfyddyd Fesopotamaidd. Ac mae llawer o'r gwaith hwn wedi ei wneud gan artistiaid anhysbys, gyda llawer ohonynt yn:
artistiaid a arbenigai yn y cysegredig ac yn hytrach nag anwybyddu "natur", a'i dirmygai ac a'i darostyngai; roedd fel petaent yn delio â byd gorwych - byd mwy gwir, mwy parhaol ac, yn bwysicach fyth, byd mwy arwyddocaol na byd yr ymddangosiadau allanol.2
Gweithiau celf fel y rhain roes ei syniadau i Picasso a pha un ai yn ymwybodol ai peidio, (a'r olaf mi gredaf), yn ei dro daw yntau yn bont rhyngom ni a nhw. Yr artist byd-eang, casglwr holl gelfyddyd y byd sydd, yn ei ddwylo, yn mynd trwy broses o drawsffurfiad, gan ddod yn rhywbeth newydd. Deallai Picasso yn rhy dda baradocs hyn, fod y syniadau hyn a'r themâu hyn wedi bod yn wastadol "newydd" ac y byddent o hyd yn "newydd", ac mai'r cyfan a wnaeth ef oedd eu hailddarganfod ar gyfer ei oes ei hun. Cyfunir elfennau ymddangosiadol digyswllt, o gyfnodau gwahanol a diwylliannau gwahanol, ac o'u cyfuno eu gwneud yn gyfamserol, fel rhan o waith celf a wnaed yn y presennol hwn.
Fel hyn yr oedd hi i Picasso a dywed y llyfr wrthym y byddai Rembrandt yn copïo miniaturau Indiaidd a bod Durer wedi astudio'n ofalus y delwau bychain Astecaidd a ddangoswyd iddo yn Antwerp, ac i wahanol raddau mae yr un mor wir am bob artist beth bynnag fo'i statws. Syniadau yw'r deunydd crai y mae'n rhaid i'r artist eu casglu er mwyn creu o'r newydd, ac mae hefyd yn wir bod rhaid i'r gymuned ehangach, y wladwriaeth, - galwch hi beth fynnoch - gasglu syniadau o'i chelfyddyd. Nid rhywbeth difywyd yw celfyddyd, ond storfa o wybodaeth, a chysylltiadau a syniadau. Mae'n dilyn felly bod rhaid i gasgliad o gelfyddyd a syniadau yng Nghymru, fod yn berthnasol i Gymru a'i phobl ac nid yn gopi o gasgliad rhywun arall, oherwydd ar ddiwedd y dydd, a rhaid i'r gwleidyddwyr ddeall hyn, mae celfyddyd yn ddrych o enaid cenedl. Mae'r ffaith fod Malraux yn dal swydd lywodraethol fel Ysgrifennydd Materion Diwylliannol yn dangos fod modd cyrraedd dealltwriaeth o'r fath, er yn anfynych. Fel y gellid disgwyl, yn Ffrainc y digwyddodd hyn.
Arddangoswyd casgliad personol o wrthrychau a chelfyddyd Andre Breton, gweledydd mwyaf blaenllaw Swrrealaeth, yng Nghanolfan Pompidou ym Mharis - 28 o ystafelloedd wedi eu llenwi â 530 o weithiau. Gan gyfuno greddf nythu gasglu gref gyda pher siaman i gyfryngu rhwng delweddau, casglodd Breton agatau ac Ernst, celfyddyd a thrychfilod Ynysoedd y De, Duchamp a Picasso, celfyddyd y gwallgof a gweithiau gan gyfeillion oedd yn ymgyrraedd at y cyflwr hwnnw.
Pan orfodwyd Breton i alltudiaeth yn ystod yr ail ryfel byd, daeth ar draws arlunwyr y Byd Newydd - Matta, Arshile Gorky a Wifredo Lam, ymwelodd â Haiti a, gyda Claude Levi Strauss, bu'n chwilota mewn siopau hen bethau yn Efrog Newydd am arteffactau Zwnïaidd a doliau Hopi Kachina. Nid rhyw drachwant cyffredin oedd yn gorfodi Breton i gasglu. Mewn diwylliannau sy'n cydnabod einioes annibynnol delweddau, mae casglwyr mewn perygl o gael eu meddiannu gan yr union wrthrychau eu hunain. Meithrinodd Breton y perygl hwn. Byddai'n hongian paentiadau wrth droed ei wely er mwyn cael cipolwg arnynt wrth ddeffro, yng ngoleuni'r anymwybod. Yn ei eiriau ei hun dywed iddo gasglu gweithiau celf, gan obeithio meddiannu i mi fy hun, y pwerau arbennig oedd, i'm llygaid i, yn llochesu ynddynt.
Cyhoeddodd y Swrrealwyr "Fap o'r byd yng nghyfnod y Swrrealwyr", map oedd yn mawrhau gwledydd yr addewid megis Mecsico a Haiti, tra'n dileu U.D.A. a'r rhan fwyaf o Ewrop. Trefnodd Breton arddangosfeydd oedd yn fwriadol yn cymysgu gwrthrychau o ddiwylliannau gwahanol, celfyddyd frodorol Americanaidd ochr yn ochr â phaentiadau gan fodernwyr Ffrainc, a gwrthrychau o Ynysoedd y Môr Tawel wedi eu cymysgu â gweithiau gan Man Ray. Gweledigaeth ac eiddo un dyn, gan gynnwys cydweithrediad gyda chymeriadau yn amrywio o Dali i Trotsky.
O ganlyniad, fel pobl sy'n perthyn i oes gwybodaeth dorfol, rydym i gyd yn gasglwyr, hyd yn oed os yn ddiarwybod felly - yn gasglwyr gwaith celf o'r gorffennol a'r presennol, ac nid yn unig yn gasglwyr celf ond hefyd yn gasglwyr syniadau a phrofiadau sydd yn dylanwadu arnom neu'n taro tant o'n mewn. Mae'r 'Amgueddfa heb Furiau' hon yn gwirioneddol gynnwys Cyfoeth y Byd mewn ffordd na allai amgueddfa real o frics a morter fyth ei wneud. Beth sy'n gynwysedig ynddyn nhw yw amlygiadau materol o gasgliad yr artistiaid o ddylanwadau a syniadau. Awgryma Malraux nad ydym ni ( fel artistiaid) yn meddiannu'r casgliad, ond mai'r casgliad sydd yn hytrach yn ein meddiannu ni.
Yn ei hanfod, lle yn y meddwl yw Amgueddfa heb Furiau. Nid ni sy'n byw yn y lle; mae'r lle yn byw ynom ni.3
Daw hyn yn amlwg yn y modd y mae syniadau a dylanwadau yn ymddangos mewn gwaith artist; anaml y bydd yn cael ei wneud yn uniongyrchol neu'n ymwybodol. Hwyrach y deuwn yn ymwybodol o'r gyfeiriadaeth rywdro ar ôl gwneud y gwaith, yn hytrach na chyn ei wneud neu wrth ei wneud.
Ymhle, pa bryd a sut y dechreuwn gasglu? I bob un ohonom, mae'n dibynnu ar y sefyllfa y cawn ein hunain ynddi a hefyd ar sut berson ydym ni, ar y cefndir y daethom ohono ac ar y dylanwadau a'r profiadau sy'n parhau i'n mowldio a'n newid. Fel y byddai'r damcaniaethwr o Gymro, Raymond Williams yn ei ddweud :
Credaf fod pob artist sy'n myfyrio ar ei brofiad a'i ddatblygiad yn dod yn waelodol ymwybodol o'r graddau y bu i'r ffactorau hyn o ffurfiant a chyfliniad, yn ei hanes penodol ef ei hun, fod yn dyngedfennol yn y syniad o'r hyn ydyw ac o'r hyn y mae felly, yn rhydd i'w wneud. 4
Y dylanwadau ffurfiannol hyn, a'r syniadau sy'n deillio ohonynt, yw'r deunydd crai y mae'r artist yn ei gasglu ac ohonynt bydd yn llunio pethau newydd; dyma'r cynnyrch terfynol wedi iddo gael ei nithio o'r pethau gasglwyd yn amgueddfa'r meddwl.
Rwy'n byw yn Grangetown lle mae'r Afon Taf yn llifo heibio ar ei thaith olaf i'r môr; rwy'n gallu gweld Stadiwm Rygbi'r Mileniwm a daw taith gerdded deg munud â mi at safle adeilad newydd y Cynulliad. Rwy'n dair a deugain oed a threuliais hanner fy hoedl yng Nghaerdydd. Yn y siop ar y gornel, Urdu yw iaith yr hogiau ifanc. Mae'r plant sy'n chwarae yn y stryd yn gwisgo saris, ond gorllewinol yw'r gemau a chwaraeant. Ganwyd fy ngwraig yng Nghaerdydd ond daw ei theulu o Wlad Groeg. Mae ein plant yn siarad Cymraeg. Yng ngeiriau John Cowper Powys, Cymro styfnig (obstinate Cymric) o'r gogledd ydw i, yn byw mor bell i'r de ag y mae modd gwneud yng Nghymru, lleiafrif ymhlith lleiafrifoedd a phob un ohonom yn rhan hanfodol o Gymru heddiw.
Fel Mr Khan sy'n byw ddau ddrws i ffwrdd, rwy'n adnabod y bobl ddaeth o'm blaen. Ar y Sul, bydd fy rhieni, gant a hanner o filltiroedd i'r Gogledd, newydd ddod adref o'r capel, rhywbeth y bu'r ddau yn ei wneud ers dros saith deg o flynyddoedd. Byddant yn eistedd i wylio rhaglen Gymraeg ar S4C; rhoddant ganiad i holi am y plant; ânt i dy fy chwaer yn yr un stryd. Maent yn byw eu bywyd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac yn troi yng nghanol diwylliant Cymraeg arbennig, ac felly y bu am genedlaethau. Materion pentref, materion capel, materion teulu, perthynas pobl â'i gilydd; bodolaeth sydd bron â bod yn llwythol, ond sydd yn newid yn gyfangwbl yn fy nghenhedlaeth i, a'r newid hwnnw yn anochel a di-droi'n-ôl. Tanseilir yr hunaniaeth "graidd" hon gan ddiwylliant mwy byd-eang. Nid ymddangosai'n angenrheidiol i 'nhad ddiffinio ei hunaniaeth; rydw i fel petawn i'n gwneud hynny yn gyson. Wrth fynd yn hyn, mwyaf yn y byd y bydd y dylanwadau ffurfiannol hyn yn tresmasu ar fy nychymyg. Hwyrach bod fy ymwybyddiaeth o fod yn 'pasio pethau 'mlaen' yn cael ei ddeffro, o fod â thri o blant fy hun.
Gadewais fy nghartref yn Y Bala am y tro cyntaf i fynd i'r Brifysgol yn Aberystwyth i astudio yn y Gyfadran Economeg (rhywbeth yr oeddwn i'n gwbl anaddas i'w wneud) ac Astudiaethau Cymdeithasol, cyn dilyn llwybr amgenach, flwyddyn yn ddiweddarach, mewn celf, gan ddilyn cwrs Sylfaenol yng Nghaer. Yn Aberystwyth roeddwn yn byw mewn neuadd breswyl gwbl Gymraeg ei hiaith a hynod wleidyddol - berw o weithgaredd gwleidyddol a diwylliannol a man lle'r oedd y Gymraeg a'i diwylliant yn ganolog i bopeth. Roedd dod i goleg celf yng Nghaerdydd yn wrthgyferbyniad llwyr. Prin bod siaradwr Cymraeg arall yn y coleg, gyda'r tiwtoriaid yn llawn amheuon neu heb sylweddoli fod yna ddiwylliant ar wahân yng Nghymru, ac yn fwy na hynny, roedd colegau celf y cyfnod hwnnw (1973) wedi eu drysu gan ofalon moderniaeth ddiweddar, ac yn arbennig felly "ryng-genedlaetholdeb" oedd wedi ei ysbrydoli yn America. Nid oedd diddori neu ymwneud â nodweddion diwylliant bychan yn cael ei ystyried yn weithgaredd o unrhyw bwys. Gadewais y cwrs ar ôl yr ail flwyddyn.
I mi, dechreuodd y casgliad o ddylanwadau gyda detholiad eclectig o artistiaid enwog o'r canon Gorllewinol, yn ogystal â llond dwrn o artistiaid Cymreig neu unrhyw artistiaid yn wir oedd â chysylltiad o unrhyw fath â Chymru: Augustus John, yn gymaint am ei gysylltiadau a'r Bala lle roeddwn i'n byw, ag am ei fohemiaeth ramantus; yn gymaint am ei hunan-ddinistrio hynod ag am ei ddawn dylunio; Gaudier-Brzeska, modernydd o bwys a laddwyd yn y ffosydd ac a fu am gyfnod byr yn byw yn Ffordd Claude, Caerdydd, stryd y bûm innau'n byw ynddi fel myfyriwr; Chagall, Roualt a Dubuffet ac yn ddiweddarach Miro a Tapies o Gatalonia; ffigyrau diweddar Philip Guston oedd wedi eu hysbrydoli gan gartwnau. "Mae lluniau yn dweud storïau," meddai "a dyna sy'n gwneud i mi fod eisiau paentio. I weld mewn llun, rywbeth y mae rhywun wedi methu ei weld ar hyd yr amser, hyd at nawr a hynny am y tro cyntaf". Guston roes un o'r cynigion gorau ar ddiffinio natur celfyddyd pan ddywedodd, "Credaf mai'r awydd grymusaf i baentiwr, person sy'n creu delweddau, yw gweld y ddelwedd ei hun. I weld yr hyn y mae'r ymennydd yn gallu ei feddwl a'i ddychmygu, i'w ddarganfod drosto'i hun a thrwyddo'i hun, mor ddiriaethol ag sydd modd. Credaf mai dyna yw'r dyhead mwyaf grymus ac, ar yr un pryd, y dyhead mwyaf hynafol sydd wedi goroesi 25,000 o flynyddoedd." 5 Mae geiriau fel yna yn ysbrydoliaeth i rywun, yn fwyaf arbennig oherwydd yr adnabyddiaeth, "ie", fe deimlwch, "mae hynna yn iawn, dyna'r union beth." Yn raddol dechreuais fwynhau gweithiau Joseph Beuys, ac yn anocheladwy bob tro, yn gyson onid yn ymwybodol, Picasso.
Fel myfyriwr cerfluniaeth yng Nghaerdydd yn y 1970'au roedd gen i ddiddordeb yng ngwaith cerflunwyr minimalist fel Carl Andre a Richard Nonas a'r enwog Brancusi, rhagflaenydd dylanwadol i'r ddau. Llawer blwyddyn yn ddiweddarach, syndod i mi oedd cyfarfod Nonas yng Nghaerdydd, mewn digwyddiad yn rhaglen Lle-olion 94, wedi ei noddi gan Brosiect yr Artistiaid. Buom yn sgwrsio llawer am hanes a mytholeg Cymru, yn arbennig stori Madog yn cysylltu Cymru ar U.D.A., ac o ganlyniad i'r sgyrsiau hyn dewisodd alw ei waith, (cyfres o foncyffion mawr wedi eu gosod mewn rhes), yn Mandan, enw'r Indiaid "honedig Gymraeg eu hiaith" o'r stori.
Daw atgofion yn ôl; gweld Llidiardau'r Nefoedd, Rodin ym Mharis a phaentiadau Munch ar drip ysgol i Lundain. Daeth dylanwadau eraill o weithiau arlunwyr naïf neu arlunwyr gwerinol y deuthum ar eu traws am y tro cyntaf, mewn orielau celf pan oeddwn ar daith i Orllewin Canol U.D.A. ym 1980, i ymweld â'r teulu yn Iowa a Wyoming. (Roeddynt wedi ymfudo yno ym 1911, alltudion Cymreig oedd â chysylltiadau agos â'r "hen wlad" drwy'r teulu). Datblygodd hyn yn ddiddordeb ehangach yn y "greddfol" a'r "naturiol", yng nghelf "y cyrion" ac mewn celf gan blant. Nid rhywbeth ffurfiol oedd fy ngwerthfawrogiad o waith yr holl artistiaid hyn, ond yn hytrach rywbeth greddfol. Taniodd y gweithiau hyn ynof ryw ddyhead ysol; roeddwn i'n newynu am fod yn gyfranogwr yn hytrach nag yn edrychwr.
Daeth y rhan fwyaf o'r wybodaeth a gesglais am yr artistiaid hyn o astudiaeth bersonol ac yn bennaf o lyfrau. Fel llawer o artistiaid, deuthum yn berson hunan ddysgedig. Ychydig iawn a ddysgid am gelfyddyd neu artistiaid Cymreig yn yr ysgol, a llai fyth yn y coleg celf. Y gred oedd fod unrhyw artist o Gymru feddai ar hunan-barch wedi ei heglu hi am Lundain ers tro byd, ac wedi datblygu rywsut i fod yn Sais. Rhaid casglu artistiaid - ac nid celf yn unig - i mewn i ymwybyddiaeth cenedl. Hwyrach y byddem wedyn yn gallu gweld, nid y tirlun llwm yr oeddwn wedi ei ddychmygu, ond yn hytrach realiti gwlad lle 'roedd, a lle bu, artistiaid lawer yn gweithio'n gyson. Roedd y gwendid i'w weld yn y diffyg ysgrifennu am gelf yng Nghymru, yn gymaint ag yn y difrïo trefedigaethol ar dalentau brodorol; golygodd hyn na "chasglwyd" celf ac artistiaid i'r trafodaethau diwylliannol yng Nghymru; ni ddaethant yn rhan o'r "Pethe", y pethau oedd o bwys. Fel y dywed Peter Lord, sydd â'i lyfr The Aesthetics of Relevance, yn un o'r llyfrau cyntaf i roi sylw i'r mater hwn, mor ddiweddar â 1992:
Absence of proof is no proof of absence.
Roedd cyfleoedd i edrych ar gelf hefyd yn brin, er bod fy rhieni yn gyson gefnogol i dripiau addysgol i eglwysi cadeiriol neu gastelli enwog ac o bryd i'w gilydd i'r Walker Art Gallery yn Lerpwl. Mae gen i gof ymweld ag Eglwys Gadeiriol Coventry efo mam, ar drip bws Sefydliad y Merched, a rhyfeddu at Grist Mewn Gogoniant, Sutherland a Mihangel Sant a'r Diafol, Epstein. Yn yr ysgol yn Y Bala roeddem yn ffodus fod gennym athro celf ysbrydoledig yn Glyn Baines, ond roeddem yn ddiffygiol mewn ymwybyddiaeth o hanes ein celf ein hunain (petai pethau wedi bod yn wahanol byddai Ceri Richard wedi gallu bod yn ddylanwad ffurfiannol pwysicach, fel y dylasai fod). Ond dyna fo, yn fy ugeiniau cynnar, darganfûm waith David Jones drwy ei ysgrifennu ef ei hun, In Parenthesis a The Anathemata, ac wedi hynny trwy gysylltiadau â Chapel y Ffin lle bu'n byw ac yn gweithio gyda Eric Gill. Cawn fy nenu at David Jones oherwydd bod ei ddychymyg wedi ei anelu at y pethau hynny a'm diddorai innau - Cymru, Mater Prydain, mytholeg a'r haenau o ystyr, cof a lledrith ym meddwl yr artist ac allan yna yn rhywle, yn ein cydio wrth wreiddiau anymwybod cyffredinol yn ein tirlun. Roedd wedi ymdrwytho yn nhreftadaeth ddiwylliannol Prydain Frythonaidd-Geltaidd, cyfnod hanesyddol a rhannol fytholegol sy'n greiddiol berthnasol i hanes a mytholeg Cymru, ac i'n perthynas â gweddill Ynysoedd Prydain hyd y dydd heddiw. Celfyddyd syniadau oedd hyn, yn deillio o'i gasgliad ei hun o gysyniadau hanesyddol a ddarllenasai neu a ddychmygasai, ac nid dim ond celfyddyd gynrychioliadol. Megis David Jones, darganfyddais innau ddeunydd crai yn Y Mabinogi a lluniais fy nghasgliad fy hunan o'i ffantasia doreithiog. O ddiwedd y saithdegau ymlaen, gweithiais ar baentiadau a lluniau oedd yn ceisio rhoi cylchrediad cyfoes i fythau a chwedlau oes a fu - Lleu, Blodeuwedd a Bendigeidfran. Seiliwyd cyfres o baentiadau yng nghanol yr wythdegau, dan y teitl Llongau Madog, ar chwedl y tywysog Madog o Wynedd yn glanio yn America yn y ddeuddegfed ganrif .6 Eu bwriad oedd cynnig sylw ar ddiboblogi gwledig, o ymadael neu o gael eich gwthio oddi ar y tir - machlud ffordd o fyw mewn ymchwil am y "newydd". Mae darlun mawr - Cwch Ymadael - o'r gyfres hon yn awr yng nghasgliad Y Tabernacl, Amgueddfa Celfyddyd Fodern Cymru, Machynlleth.
Credaf i mi ddysgu mwy yn ymarferol oddi wrth fy nghydoeswyr yn y coleg nag o'r cwrs ei hun, ac wedi hynny trwy gyfarfod â phaentwyr oedd wedi hen ymsefydlu, ac arddangos fy ngwaith ochr yn ochr â nhw - paentwyr megis Tony Goble a rannai fy niddordeb mewn elfennau "ffantasi" sy'n ysbrydoli'r dydd i ddydd
ac mewn bod yn Gymro. Dysgais lawer hefyd o ddod i adnabod ysgrifenwyr a beirdd fel Twm Miall, Iwan Llwyd ac, yn ddiweddarach Ed Thomas, y bûm yn cydweithio ag ef ar Flowers of the Dead Red Sea ym 1991 a Hiraeth ym 1993.
Ym 1985 cefais wahoddiad i ymuno â Grp Beca, a sefydlwyd ddeng mlynedd cyn hynny gan Paul a Peter Davies, (gydag Ivor Davies a Dennis Bowen yn ymuno â nhw yn ddiweddarach). Bwriad sefydlu Grp Beca oedd gwneud celf roddai fynegiant i'r ymwybyddiaeth Gymreig oedd wedi ei pholiticeiddio - ymwybyddiaeth y deuthum yn gyfarwydd â hi yn Aberystwyth, ac yn Y Bala cyn hynny. Daeth yr enw Beca o wrthryfel Rebecca ym 1843, sef ymateb ffyrnig i gasglu tollau ar briffyrdd Cymru ac i anghyfiawnderau cyffredinol cyfundrefn drefedigaethol. Gyda llaw, arferai'r dynion wisgo dillad merched a byddai eu hwynebau wedi'u duo, ac fe'i gelwid yn "merched Becca". Ond rhaid edrych i ddigwyddiad mwy diweddar yn hanes trefedigaethu i ddarganfod yr hyn daniodd y politiceiddio yn y 60'au a'r 70'au, digwyddiad a gafodd ei ddarlunio yng ngwaith celf aelodau Grp Beca, yn benodol mewn paentiad gan Ivor Davies ym 1993 ac mewn gwaith safle gan Tim Davies ym 1997.
Y digwyddiad, ym 1963, oedd boddi pentref a dyffryn Capel Celyn ger Y Bala gan Gorfforaeth Lerpwl, gweithred o orfodaeth drefedigaethol oedd yn anwybyddu dymuniadau poblogaeth Cymru, er mwyn darparu dwr ar gyfer y glymdref dros y ffin. Cafodd y pentref a'r ffermydd cyfagos eu gwacáu a chronnwyd dr Tryweryn. Ac er nad oedd hwn ond un o nifer o gronfeydd dwr a adeiladwyd yng Nghymru ers cyfnod Fictoria, rhoes fod i ddicter a phrotestiadau ffurfiol a ddatblygodd, ar y naill law yn fudiadau heddychlon megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac, ar y llaw arall yn wrthsafiad allasai fod yn dreisgar, gan Fyddin Rhyddid Cymru ac M.A.C., ac yn ddiweddarach a arweiniodd at losgi tai haf Saeson gan Feibion Glyndr. Ym 1969, blwyddyn arwisgo Charles yn Dywysog Cymru, cyhuddwyd John Jenkins, cyn swyddog yn y fyddin Brydeinig, o nifer o droseddau yn ymwneud â ffrwydron ac fe'i dedfrydwyd i ddeng mlynedd o garchar, lle cafodd ei fygwth yn gyson. Roedd boddi Tryweryn, er mai cof plentyn sydd gen i o'r amgylchiad, yn ing ychwanegol i mi fel plentyn o'r ardal, gan fod ffrindiau ysgol i mi yn anffodusion uniongyrchol i'r chwyldro a achoswyd. Mae'n debyg hefyd fod y "boddi" hwn yn ddigwyddiad cyfoes sy'n taro tant yng nghof y genedl. Mae iddo atsain i unrhyw un sydd wedi darllen barddoniaeth gynnar Gymraeg a'r mythau sy'n rhoi perthnasedd mawr i lynnoedd lledrithiol o'r byd arall oedd yn cuddio dan wyneb y dr, ac i foddi tir, megis yn Cantre'r Gwaelod ac yn stori Llyn Tegid, Y Bala - y llyn arall lle treuliais fy mhlentyndod.
Profodd Grp Beca y gallem ni fel artistiaid roi sylw cyfreithlon yn ein gwaith i faterion ein Cymreictod. Profodd hefyd fod amgylchiadau cymdeithasol yn cynhyrchu artistiaid oedd yn meddu ar y dychymyg a'r ymwybyddiaeth gymdeithasol angenrheidiol i roi sylw i faterion yn ymwneud â hunaniaeth a'i natur ddyrys, ac i herio ffactorau dryslyd a gelyniaethys eu hoes. Roedd meddylfryd yr artistiaid dan sylw yn un o dorri tir newydd a gwneud hynny'n ffurfiol. Gan weithio'n gydweithredol, gweithio â rwbel, mwd a sbwriel ar ei Fap o Gymru, ysgrifennu a darlithio, roedd Paul Davies yn rym ysbrydoledig mewn celfyddyd gyfoes Gymreig, cyn ei farw annhymig ym 1993, yn 46 mlwydd oed. Credai y gallai celfyddyd newid pethau. Gadawodd ar ôl gasgliad gwerthfawr o syniadau ar gyfer y rhai fyddai'n ei ddilyn , a chorff o waith a ddylai ryw ddydd fod yn graidd i gasgliad o gelfyddyd frodorol mewn Amgueddfa Celfyddyd Fodern Cymru (dan nawdd y wladwriaeth).
Roedd i Ivor Davies ran sylweddol yn y mudiad Dinistr Celfyddyd yn y 1960'au yn Llundain a Chaeredin, yn trefnu perfformiadau oedd yn cynnwys ffrwydriadau dan reolaeth, cydosodiadau hunan ddinistriol, a pherfformiadau llwyfan. Treiddiodd y dylanwadau hyn i ddulliau gweithio Beca, ac i mi, roeddynt yn gyswllt uniongyrchol â delfrydiaeth a deinameg byd celfyddyd y 1960'au. Dichon fod Ivor Davies erbyn hyn yn fodlon ar baent (a phriddliw coch o Fynydd Epynt) ar gynfas fel cyfrwng, ond mae'n dal i ddinistrio, i ddileu â'r dril a'r sandiwr disg ac i rwbio allan, fel rhan o'r broses o greu delweddau.
Celfyddyd fel mynegiant cenedl
Profodd ymweliad â Gwlad y Basg ym 1989 yn agoriad llygad i mi; yno gwelais waith Augustin Ibarrola, enw anghyfarwydd i mi, ond un oedd yn fawr ei barch fel 'henadur' o artist yn Euskadi, ac artist oedd yn meddu ar statws sefydliad cenedlaethol, gyda'i waith ynghlwm yn ddiwrthdro wrth ymwybyddiaeth genedlaethol. Mewn mannau cyhoeddus fe welwch y cerfluniau paentiedig, wedi eu gwneud o ddur wedi ei weldio, a thrawstiau rheilffordd; yn yr orielau cewch y gosodweithiau paentiedig gafaelgar sy'n dwyn i gof gydsafiad gweithwyr ac annibyniaeth ysbryd y Basgiaid, a'r cyfan yn llawn dilysrwydd. Yn y goedwig binwydd ger ei stiwdio ar gyrion Guernica mae presenoldeb rhithiol ei amlinellau paentiedig cyntefig o ddynion yn ymdeithio ac o lygaid totemaidd gwyliadwrus. Mae'r ysgolion coesfain a wnaed o ganghennau'r pinwydd hirsyth wedi eu gadael i bwyso yn erbyn y coed, yn yr union fan lle'i defnyddid gan yr artist, gan ddynodi'n baradocsaidd, ei bresenoldeb a'i absenoldeb. Tra cerddem y llwybrau drwy'r fforest enfawr, gan weiddi trwy gwpan ein dwylo, "Ibarrola", "Ibarrola" (dywedasai ei wraig wrthym ei fod yn gweithio yno), diflannodd o'r golwg. Roedd hyn i gyd yn f'atgoffa i o hynafiaid tybiedig fy mhobl fy hun, fel Iberiaid cyn-Geltaidd, a ddiflannodd i'r mynyddoedd a'r coedwigoedd, i ail-ymddangos dro ar ôl tro drwy hanes, gan osgoi ton ar ôl ton o goncwerwyr, o'r Celtiaid penfelyn, i'r Rhufeiniaid, y Llychlynwyr, y Sacsoniaid a'r Normaniaid. Ai dyna paham yr ymddengys bod cydnawsedd rhyngom â'r Basgiaid ang-Ngheltaidd, pobl sydd â'u hiaith a'u tarddiad yn ddirgelwch? Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach dysgais oddi wrth y beirniad Americanaidd Robert C. Morgan fod coed paentiedig yn ffenomenon gyffredin ble bynnag y byddai Basgiaid wedi sefydlu yn America. Ymddangosai gwaith Ibarrola megis mynegiant cenedlaethol, ochr yn ochr â'r gelfyddyd wleidyddol, guddiedig, ddychanol a dyfeisgar oedd yn llenwi muriau Pamplona a Bilbao. Roedd gweld y gwaith fel dod i adnabod y bobl, a chael y teimlad fod y gelfyddyd hon yn adlewyrchiad cywir o fynegiant y genedl hon, a'i bod yn gysylltiedig â'i chymuned. Ar unwaith, cesglais y syniad yma ar gyfer fy 'Amgueddfa heb Furiau' fy hun.
Mae'r silffoedd llyfrau yn fy nghartref yn llawn o gatalogau, cylchgronau a llyfrau sy'n delio â'r materion hyn yng nghelfyddyd gwledydd eraill, os nad yn fy ngwlad fy hun. Mae'r dyfyniad canlynol, ddewiswyd ar ddamwain, wedi ei godi o gatalog o Gelfyddyd Croataidd Newydd sy'n teithio De America. Dyma ddywed Yr Athro Mimi Marinovic o Brifysgol Chile :
Diwylliant sy'n gwneud cenedl. Mae'r celfyddydau yn rhan o resymeg unigol symbolaidd a mynegiannol sydd yn cysylltu yn y modd agosaf posibl â hunaniaeth cenedl
Mae ymwybyddiaeth feirniadol, hunan-feirniadol artist sy'n werth ei enw yn cyfrannu tuag at roi siâp i'r hunaniaeth honno. Gall wrthsefyll her modelau estron a byd-eang o rethreg, sydd mor nodweddiadol o'n hamser ni gyda'i gynnydd cyson mewn cyfathrebu dwyochrog. Mae celfyddyd yn greadigol newid y modelau hyn neu, mewn cysylltiad â nhw, yn rhoi golwg newydd ar draddodiad, ac felly yn eu cyfoethogi.7
Celfyddyd a'r ysbryd
Ym 1990, treuliais bedwar mis fel Artist Preswyl yn Oriel Genedlaethol Zimbabwe. Yn ystod fy arhosiad yn y wlad honno, profais rywbeth na allwn ond ei ddisgrifio fel elfennau ysbrydol creadigedd, wrth syllu ar adfeilion waliau sychion Zimbabwe Fawr a gweld paentiadau prysgoedwyr San ar greigiau'r dirwedd cras, rhai'n dyddio'n ôl ddwy fil o flynyddoedd, a phob un wedi ei wneud â chyffyrddiad deheuig mewn lliwiau brau, ond maent yno o hyd. Yng ngoreuon y cerfluniau cerrig cyfoes roedd yna bresenoldeb ysbrydol oedd wedi hen ymadael â cherflunwaith Gorllewinol - gwaith Bernard Matamera ( y cefais lawer pryd bwyd a sgwrs yn ei gwmni pan oeddwn i'n byw ac yn gweithio ym mhentref cerfluniau Tengenege, yn y diffeithwch i'r gogledd o Harare); gwaith Nicholas Mukomberanwa, y brodyr Takawira a Tapfuma Gutsa yr ieuengaf. Am y tro cyntaf erioed dechreuais werthfawrogi'r gravitas, y presenoldeb hwnnw sy'n gynhenid i weithiau mawr celfyddyd, rhywbeth oedd yno, megis grym natur. O'i roi yn ffurfiol, mae i'r cerflunwaith hwn iaith sy'n gyffredin i weithiau Brancusi, Epstein a Moore; serch hynny, mae wedi ei wreiddio yn ymwybyddiaeth y Shona, mewn crefydd, myth a diwylliant.
Hiraeth
Am ddwy flynedd ar ôl Affrica, roedd fy ngwaith yn ymwneud â theimlad o ddadleoli ddaeth i'm rhan wedi i mi ddychwelyd o Zimbabwe i Gaerdydd. Teimlwn fel petawn yn byw mewn rhyw limbo, rhwng dau fyd. Yn eironig iawn roeddwn i wedi teimlo'n gartrefol yn Zimbabwe, ond nid yn gartrefol ar ôl dychwelyd; roeddwn i'n anniddig ac anfodlon. Cwblheais gyfres o ddelweddau a oedd mewn gwirionedd, yn balimpsestau bwriadol - sawl haen o arlunio, o baentio a gludwaith aml-gyfrwng, wedi ei arosod â haen derfynol o arlunio â phaent olew ar y tu mewn i ddarn o wydr, a hwnnw'n cael ei roi fel wyneb i'r gwaith, gyda bwlch yn eu gwahanu. Roedd yr ymdeimlad o limbo grëwyd gan ddau fyd anorffenedig o brofiad i'w weld yno yn y bwlch rhwng y darluniau. Arddangoswyd y gwaith hwn fel Hiraeth yn Oriel, Caerdydd ac wedi hynny ar daith ym 1993/94. Yn ei draethawd yn y catalog, dywed Fintan O'Toole am y gwaith :
mae'r peintiadau yn ddelweddau o broses ddiwylliannol sydd yn hanfodol i wledydd bychain, ansefydlog, y broses o ail-ddyfeisio atgofion, o ddilysu'r ysgrifen ar y llawysgrif drwy wybod bod rhywbeth y tu ôl iddo, hyd yn oed oni fedrir adhawlio'r rhywbeth hwnnw byth.8
Yn ddiweddar, prynwyd un o'r peintiadau hynny, Dyrchefwch eich Adfeilion, ar gyfer Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru gan Gymynrodd Derek Williams; daw ei ddelweddaeth o dwr cerrig canolog Zimbabwe Fawr, na wyddom ddim am ei bwrpas na'i hanes, ond a ddaeth ym 1980, yn symbol i wladwriaeth newydd Zimbabwe.
Roedd yr arddangosfa Hiraeth hefyd yn rhan o'm cyflwyniad terfynol ar gyfer Gradd Meistr, wnaed yn Howard Gardens, Caerdydd, cyfiawnhad personol i mi ar ôl fy nghyswllt cyntaf anhapus â'r coleg. Yn sgìl fy astudiaethau, dechreuais fwynhau ysgrifennu a darllen ar amrediad llawer ehangach o bynciau. Cesglais syniadau o ddifrif. Fodd bynnag, roedd fy mhrif ymchwil o hyd yn ymwneud â cheisio cysylltu fy niddordeb mewn hunaniaeth Gymreig ag ymwybyddiaeth, oedd yn dyfnhau, o'r drafodaeth ôl-drefedigaethol a ymddangosai yn gynyddol mewn ysgrifennu (yn cael ei symbylu gan artistiaid yn Affrica ac America Ladin), a'r modd y mae ôl-foderniaeth fel petai'n agor drysau i gelfyddyd oedd yn ymwneud â'r pynciau hyn. Erbyn hyn nid ymddangosai'n angenrheidiol i ledaenu'r "rhyng-genedlaetholdeb" yr oedd moderniaeth ddiweddar am fynnu ei gael. Mewn gwirionedd roedd y "rhyng-genedlaetholdeb" hwn yn ideoleg ddeallusol oedd wedi ei seilio ar olwg gul iawn, ac Ewro-americanaidd, ar y byd. Ymgollais mewn byd o theori ac ni ddaeth y cyfan yn eglur nes i mi, gyda'r ddau bolymath diwylliannol Gymreig - Raymond Williams a Gwyn Alf Williams (dau ddaeth yn feini prawf deallusol i mi) - osod y theorïau ôl-fodernaidd mewn cyd-destun fyddai o werth i artist yng Nghymru.
Prosiect Artistiaid
Tua'r un cyfnod fodd bynnag, roeddwn yn ymwneud fwyfwy ag artistiaid a digwyddiadau rhyngwladol, gan weithio gyda'r Prosiect Artistiaid yng Nghaerdydd. Gyda chymorth Sean O'Reilly a Paul Beauchamp roeddwn wedi helpu i sefydlu'r prosiect hwn oedd yn cael ei redeg gan artistiaid, a bu'n gyfrwng i ddod â chysylltiad ag artistiaid a syniadau rhyngwladol yn nes adref. Trwy gyswllt â'r Amgueddfa Artistiaid yn Lodz, Gwlad Pwyl, cawsom ymuno â rhwydwaith o "swyddfeydd" oedd dan reolaeth artistiaid, math ar "gymuned o artistiaid answyddogol rhyngwladol". Dyma eu disgrifiad eu hunain o'r sefydliad :
Nid amgueddfa o fewn muriau yw amgueddfa yr Artistiaid Rhyngwladol. Mae'n sianel gyfathrebu byd-eang sy'n cysylltu artistiaid a deallusion o amrywiaeth o feysydd trwy rwydwaith byd-eang o ganolfannau celf annibynnol, canolfannau sydd dan reolaeth lleol, sy'n rhyngweithiol ond sydd hefyd yn cael eu hariannu'n annibynnol.
Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau gan y Prosiect Artistiaid yng Nghaerdydd ac, yn benodol, Lle-olion ym 1994 a 1996; (roedd y digwyddiadau'n cynnwys gwaith aml-gyfrwng ar gyfer safleoedd neilltuol a wnaed tros gyfnod o saith i bedwar diwrnod ar ddeg). Roedd y Prosiect yn gwahodd artistiaid o Gymru i gymryd rhan mewn digwyddiadau tramor, yn Berlin, diffeithiwch Negev, Gwlad Pwyl a Croatia, a thrwy hynny ehangu ein cymuned a'n profiad personol fel artistiaid. Un digwyddiad sy'n aros yn y cof yw gwylio'r artist Ryszard Wasko, sefydlydd Amgueddfa Artistiaid, yn teipio llythyr ffurfiol yn ein croesawu i'w frawdoliaeth - ar hen beiriant tolciog, sigâr yn ei geg, gwydraid o vodka yn ei law, a hithau'n ddiwrnod oer a diflas yn Lodz. Dysgais am ei Archif Myfyrdod Cyfoes, a ragflaenodd ei Amgueddfa'r Artistiaid, archif a sefydlodd mewn 'stafell gefn yn ei fflat - casgliad o ddogfennau, cynlluniau a syniadau anfonwyd gan artistiaid o bob rhan o'r byd, ar gyfer gweithiau celf i'w rhoddi'n anrheg i Wlad Pwyl yng nghyfnod Solidarity. Roedd hon yn enghraifft o gasglu mewn dull gwahanol i ddulliau arferol amgueddfeydd; yn wir mae'n cwestiynu swyddogaeth y sefydliadau hynny, trwy greu casgliad sydd wedi ei seilio ar syniadau artistiaid, i'w rhannu rhwng cymuned fyd-eang sy'n gyfrannog o'r un gwerthoedd. Rhoddwyd cychwyn ar werthoedd fel hyn gan artistiaid fel Kandinski, Alfred Kupka, Sol Le Witt, John Cage, Alexander Calder, Joseph Beuys a mudiadau megis Constructivism yn Nwyrain Ewrop a Fluxus yn U.D.A.
Dymuniad y Priosect Artistiaid, ac mae'n un uchelgeisiol, yw gwneud Cymru yn ganolfan lle mae'r syniadau hyn am gelfyddyd yn dod yn rhan o'r broses o hunan-ddiffinio, nid yn unig ar gyfer ac yng Nghymru, ond fel model ar gyfer gweddill Ewrop, h.y. yn hytrach na'n bod yn bell ar ôl, ein bod ymhell ar y blaen. A thra bod gennym ni artistiaid y dychymyg i ddygymod â'r cysyniad, yn anffodus nid yw'n debygol y bydd hyn yn wir am y cyrff noddi. A fyddant yn barod i "brynu'r" syniad; a fyddant am fod yn gasglwyr?
Gyda'r cyfle hwn, fe allwn fod wedi ystyried mabwysiadu ffordd o fyw nomadig, fel yr artistiaid "rhyngwladol" hyn a deithiai o ddigwyddiad i ddigwyddiad, ond, gan fy mod i erbyn hyn yn r priod gyda theulu ifanc, roeddwn i wedi dod yn fwy ymwybodol o'r "cartref"; roedd y cwlwm teuluol yn gryfach gan fod gennyf gyfrifoldeb rhiant. Os bu "cartref" erioed yn gysyniad haniaethol, erbyn hyn roedd yn gwbl real. Mae'r sefyllfa fel petai'n fy ngorfodi i fyfyrio ar gysyniadau cyfredol megis "lledaenu ar draws y byd" a "gwreiddiau" - y byd a'r cartref, cysyniadau sy'n gyfochrog ac eto'n groes i'w gilydd.
Arweiniodd ymchwil i'r anghysonderau ymddangosiadol hyn at ddiddordeb cynyddol yng ngweithiau artistiaid o ddiwylliannau eraill yn y gwledydd sy'n datblygu, artistiaid allai fod â mwy yn gyffredin rhyngddynt â'm safbwynt personol i yma yng Nghymru. Artistiaid yw'r rhain sydd, fel petai, yn delio â phersnasedd y cysyniad o gartref ac o wreiddiau, oddi mewn i'r byd ehangach. Roedd celfyddyd a dueddai i ymwrthod â'r sgiliau a'r dechneg ffurfiol a ddysgid yn frwd unwaith gan y gorllewin, yn apelio ataf; roedd hon yn gelfyddyd oedd am durio'n fwy effeithiol i iaith yr anymwybod ac ar yr un pryd am fynd i'r afael â materion hunaniaeth ôl-drefedigaethol ac â'r gwleidyddol a'r hanesyddol-gymdeithasol.
Estheteg Santeria
Cawn fy nhynnu yn arbennig at waith Jose Bedia, artist o Giwba. Mae ei arlunio a'i waith mewnosodiadol yn drawiadol, ar unwaith yn cynnig golwg ar ddiwylliant o bersbectif gwahanol. Mae'n ystyried Ciwba fel diwylliant syncretaidd, croesffordd ddynol o gyfeiriadaeth ddiwylliannol. Ffigurau hyderus, sy'n dwyn i gof dduwiau ac ysbrydoedd Affricanaidd, yn llamu dros fynyddoedd ac yn croesi pontydd, yn llusgo cychod, trenau a lorïau i fyd newydd Gogledd America. Mae'n ymchwilio i'r syniad o draws-genedlaetholdeb, diwylliant nad yw wedi ei ynysu neu ei foddi gan gyrchoedd o'r tu allan, ond sy'n trawsnewid ei hun trwy feddiannu ac amsugno. Hyd yn oed mewn atgynyrchiadau, mae rhyw rin yn diferu o'i waith safle a'i gynfasau; bron fod yna arwyddocâd crefyddol yn ei symboliaeth. Dim ond yn ddiweddar, ar ymweliad â Chiwba ym 1998, y cefais well dealltwriaeth o'r pwnc hwn. Fel un o'r artistiaid "answyddogol", cenhedlaeth a ddaeth yn amlwg yng Nghiwba yn yr wythdegau, nid yw'n byw yno mwyach, ond darganfyddais wreiddiau cryf ei waith ef, a gwaith artistiaid eraill, yn y traddodiad Santeria Affro-Giwbaidd. (Yn ddiweddar daeth un o'i gyfoeswyr, Raol Speek, i gysylltiad â mi; bu'n byw yn Solfa, Sir Benfro am y tair blynedd diwethaf). Fel dilynwr crefydd Palo Monte, mae gweithiau Bedia yn aml yn ymgorffori elfennau sydd o arwyddocâd lledrithiol a defodol. Artist arall yw Juan Fransisco Elso (1956-88); yn ei gerf ddelw Por America (1986), mae ffigwr pren cerfiedig o Jose Marti, arwr cenedlaethol Ciwba, gwr deallus ac awdur, yn cael ei "danio" â gorchudd o fwd wedi ei gymysgu â gwaed yr artist ei hun, a gwaed ei wraig, yr artist Magali Lara o Fecsico. Mae darnau eraill yn cael eu "tanio" ag elfennau sy'n rhoi pwer iddynt - carreg o'r Andes, cragen dro o Affrica, pridd o nifer o leoedd, hadau. Mae yn y gwaith hwn ddimensiwn sy'n ychwanegol at yr esthetig, ffurfiol gweledol. Mae fel petai ystyr cudd yn ei yrru. O astudio'r peth, daw'n amlwg fod yr artistiaid hyn (rhai ohonynt wedi eu derbyn i Santeria, yn y naill neu'r llall o'i amryw ffurfiau), yn defnyddio distyllion lledrithiol o lysiau a gwreiddiau yn guddiedig yn eu gwaith. Mae Bedia yn gwahaniaethu rhwng allor real a gwirioneddol a wnaethai ef ei hun yn ei stiwdio, a'i sancteiddio'n ddefodol â gwaed cyw iâr, a chopi "glân" ohoni a gomisiynwyd gan oriel yng Ngogledd America.
Mae gwaith yr artistiaid hyn yn peidio â bod yn ddarluniau o syniadau yn unig, ac yn tyfu i fod yn "allorau" trawsffurfiol grymus. Un peth sy'n gyffredin i genhedlaeth o artistiaid, cymharol ddigyswllt, o Ciwba yw'r ymchwil y bu'n rhaid iddynt ei wneud, yn ymwybodol neu'n anymwybodol, i ethnograffeg. I wahanol graddau, maent wedi dysgu am yr ymarfer o Santeria, er bod llawer wedi eu geni iddo, ac am symboliaeth a hanes y gorffennol Yoruba hwnnw a'r traddodiad parhaus yn America Ladin. Dywed Bedia mai ei ddiddordeb ef yn y grefydd oedd : Yn gyntaf fel cydnabyddiaeth o'm hunaniaeth genedlaethol ac mewn ymchwil am wreiddiau cryfion ym mywyd Ciwba fyddai'n esbonio pethau am Giwba. 9 Roedd ymchwil Bedia yn ddarganfyddiad anthropolegol o genedl Ciwba, ei gymuned. Cafodd astudiaeth Lydia Cabrera o ddiwylliant disgynyddion Affricanaidd yng Nghiwba, a ddechreuwyd yn y 1930'au, ddylanwad sylweddol. Roedd ymchwil Bedia hefyd yn cynnwys diwylliant yr Amerindiaid brodorol, diwylliant y gellid dweud ei fod wedi ei syncreteiddio yn symbolaidd ac yn faterol i'w waith, fel ag y mae i Ciwba gyfoes. Arweiniodd y diddordeb hwn mewn diwylliant brodorol i breswyliad gyda Sioux y Lakota ym 1985. Mae yna stôr enfawr o wybodaeth a gasglwyd ganddo sy'n ysbrydoli ei weithiau safleol a'i ddarluniau scematig a ffurfiol.
Daeth rhai artistiaid, megis Bedia, yn "gyflawn aelodau", tra bod eraill wedi aros yn seciwlar er yn ymwybodol o'r lledrith y gallent dynnu arno ar gyfer eu gwaith. Fel hyn y dywed Raquelin Mendieta, wrth sôn yn rymus iawn am ei gwaith ei hun :
Yr un peth yw ysbrydolrwydd a chelfyddyd.
Mae gweithiau celf yn weddïau ar allor bywyd.
Rhaid bod pob artist yn teimlo, ryw dro neu'i gilydd, nad yw ei gelfyddyd fel petai'n dod yn uniongyrchol ohono ef ei hun; caiff ei briodoli i "lwc" neu "ddamwain", "ffawd" neu "ysbrydoliaeth". Mae gorfod wynebu cynfas gwyn gwag neu floc o bren neu garreg, yn unig a heb syniad yn y byd, yn brofiad brawychus. Cred cerflunwyr yn Zimbabwe fod y ffurf derfynol eisoes oddi mewn i'r garreg; eu swyddogaeth hwy yw gollwng yn rhydd y "Mashave", yr enaid crwydrol hwn sydd wedi ei garcharu o'i mewn. Yn achos yr artistiaid Ciwbaidd, ceir trefn arbennig i gydnabod yr "orishas", y negeseuwyr sy'n cymuno â'r un duw, Olodumare. Dyna pam yr oedd gan Bedia allor "go iawn" yn ei stiwdio, i anrhydeddu "orisha" arbennig, oedd yn gysylltiedig â chreadigedd. Mae bron yn demtasiwn i mi awgrymu y dylai artistiaid Cymru ddechrau cydnabod dylanwad ac ysbrydoliaeth Taliesin a Ceridwen fel ysbryd i'w harwain, a chael allor i'r duwiau daionus hyn, rywle mewn cornel o'u stiwdio.
Mae derbyn ysbrydoliaeth o symboleg diwylliannau eraill yn sïwr o greu problemau. Cwyd Jose Bedia mewn statws a gwerth fel artist rhyngwladol trwy iddo drin yn ddeheuig, arwyddion darluniau llyfrau cyfrifon Lakota (Amerindiaidd), palo monte Affro-Giwbaidd neu ddarluniau dot brodorol o Awstralia, a gwneud hynny mewn dull na allai artist Lakota neu Affro-Giwbaidd neu Awstralaidd ei wneud - o leiaf heb gael ei labelu yn "ethnig" yn hytrach nag yn rhyngwladol.
Mae'n werth dwyn i gof farn yr artist a'r awdur Santo De Monte (wrth adolygu gwaith Hans Rikken o'r Iseldiroedd) :
Hwyrach mai tafluniad anymwybodol o rywbeth cuddiedig neu suddedig yn ein diwylliant ein hunain yw'r hyn sy'n ein cyfareddu mewn diwylliant estron. Fe allem, er enghraifft, ailystyried ymdriniaeth Picasso o estheteg Affricanaidd fel mynd allan o'i ffordd ac "yn ôl" i orffennol Iberaidd hynafol - wedi'r cwbl, fe fu yn dyst i ddarganfod cerfluniaeth Iberaidd yn y 1900'au cynnar.
Nid yw'r teimladrwydd gogledd Ewropeaidd wedi gollwng gafael yn llwyr ar ei ymlyniad at baganiaeth oedd a'i duwiau yn agos iawn at fyd natur.
Os yw Rikken yn tynnu ar agweddau naturiol, elfennol diwylliant Affro-Giwbaidd, dichon ei fod yn deillio o hiraeth - hiraeth anymwybodol o bosib, am gyntefigiaeth Ewropeaidd neu orffennol mytholegol. Mae'r dylanwad Ciwbaidd mud yn galluogi'r gogleddwr i ail-ddarganfod neu ail-fynegi ei hunaniaeth ei hun.10
Rhaid i ni fod o hyd yn ymwybodol o faint y dylanwad sydd arnom gan symbolegau eraill. I mi, roedd gwaith yr artistiaid hyn yn fwy buddiol fel rhywbeth i ddilysu achos - yr "estheteg gwarcheidiol" hwn a ganiatâi i mi ail-ddarganfod eiconograffi gan ddefnyddio rhannau a thameidiau o draddodiadau, trosiadau, ystrydebau, chwedlau a storïau o'm diwylliant i fy hun.
Fel y rhan fwyaf o waith artistiaid, mae fy mhaentiadau, cydosodiadau a'm mur ddarnau innau - yr amlygiadau hyn o syniadau - yn ddatganiadau personol. Ac yn bwysicach na hynny, mae a wnelont â chymuned y teimlaf fy mod yn perthyn iddi. Ffurfir y gymuned hon gan yr hyn a eilw Raymond Williams yn "lefelau o deimladau", gan ragdybiaethau cyffredin a chronfa gyffredin o gof a diwylliant. Rwyf felly'n teimlo'r cyswllt rhyngof â'r artistiaid hynny sy'n creu gwaith mewn amgylchiadau tebyg, a chyda lefelau tebyg o deimladau, mewn rhannau eraill o'r byd.
Beth sydd â wnelo treftadaeth â'm celfyddyd i? Dyna gwestiwn rhethregol ofynnwyd gan yr artist o Indiad Gogledd-America, Kay Walking Stick. Dyna sy'n fy ngwneud i pwy ydw i. Portread o'r artist yw celfyddyd, o leiaf o brosesau meddwl yr artist, o'i ymdeimlad o'i hunan ac o'i ymdeimlad o le yn y byd. Os dyna yw celfyddyd i chi, yna mae fy hunaniaeth fel artist o Indiad yn allweddol.
Mae fy nghymuned yn cwmpasu'r rhai sy'n rhannu teimlad o bwrpas artistig. Y rhai hynny y mae eu celfyddyd yn fwy na "chelfyddyd er mwyn celfyddyd", y rhai hynny sy'n defnyddio celfyddyd fel iaith (a dyna ydyw), fel y dylid defnyddio iaith, hynny ydyw, fel cyfrwng i ddweud pethau. Fel cyfrwng i neges a chof. Celfyddyd felly, gyda chynnwys a pherthnasedd i'r cymunedau y perthyn yr artistiaid iddynt, neu o leiaf am y cymunedau hynny. Ond ni ddylai hyn gyfyngu'r gwaith i'w gymuned ei hun; yn wahanol i'r iaith lafar, ni raid i gelfyddyd weledol wrth ffiniau; dylai'r gwaith fod o fewn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Fel y dywed David Alston, cyn Geidwad Celf yn Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Cymru, yn ei draethawd yn y gyfrol Certain Welsh Artists (1999) :
Ymddengys i mi y gall artist yn y Gymru gyfoes weithio yn gynhenid ac yn rhyngwladol, o ran arddull a chynnwys. 11
Gwaith
Deuthum i sylweddoli mai'r hyn a fwynhawn fwyaf, a'r hyn ddeuai hawsaf i mi, oedd nid "paentio" yng ngwir ystyr y gair ond darlunio - gwneud marciau i gyflwyno neges mewn dull sylfaenol ac uniongyrchol, er bod y neges ei hun yn aros yn gymhleth. Uniongyrchedd wedi ei feithrin gan ddiffyg amynedd, llinellau amneidiol gyda'r llofnod caligraffig yn ddigymell ac eto dan reolaeth. Nid oedd ddiddordeb gennyf mewn 'sgafnder a graddliw ac eiliw, nac mewn perthynas gyfyngedig ffurfiol â deunydd a thechneg, yn sicr nid mewn unrhyw effeithiau addurnol. Dechreuais weld llawer o'r hyn a elwir yn gelfyddyd "o ddifrif" fel dim mwy nag addurn ar yr wyneb, tra bod a wnelo llawer o'r hyn a ystyrir gan y cyhoedd yn gelfyddyd, fwy â medrusrwydd wrth drin paent, hynny ydyw, crefft yn fy nhyb i ac nid celfyddyd o gwbl. Nid awgrymu yr wyf fod crefft yn rhywbeth israddol, ond y mae yn rhywbeth gwahanol.
Mae yna dybiaeth o hyd fod darlunio (drawing) yn weithred o baratoi - paratoi ar gyfer paentio. Ond gellir ystyried darlunio fel gweithred derfynol ynddi'i hun. Byddaf yn ystyried fy null i o weithio fel cymysgedd o ddarlunio a phaentio, neu'n hytrach fy mod yn darlunio â phaent. Mae'r gwahaniaeth rhwng darlunio a phaentio yn un symudol a goddrychol, ond mae a wnelo gwaith rhai artistiaid â "phaent" mewn ffordd gwbl benodol. I mi, fodd bynnag, mae'n fwy am ddeunyddiau sy'n gwneud marciau yn effeithiol ac sy'n rhyw lun ar resymegol yng nghyd-destun y gwaith. Mae golosg a phastel yn hyfryd i'w defnyddio ar gynfas amrwd, mae emylsiwn yn gyflym, yn sychu'n sydyn, yn wlyb. Mae i baentiadau olew eu bywyd eu hun, rhoddant deimlad "gorffenedig" i waith; maent fel petaent yn eich arwain fwy i mewn i'r gwaith. Teimlaf fy mod yn gweithio mewn cydweithrediad â phaentiau olew, yn hytrach na'm bod yn eu defnyddio. Byddaf yn defnyddio cymysgedd o ddeunyddiau ar yr un pryd, yn aml iawn fel y maent wrth law yn y stiwdio.
Byddaf yn dechrau fel arfer gyda golosg, sialc a phastel; maent yn gyfryngau cyntefig, priddlyd i wneud marciau â nhw. Yn baradocsaidd, gadawodd yr elfennau hyn, er mor ddarfodedig ac ansefydlog ydynt, eu holion, am ugain canrif a mwy, ym mhaentiadau'r San, ar y creigiau, yn Ne Affrica.
Fel einioes dyn ei hun, maent o hyd yn gadael staen, arlliw, gwaddod ac atgof. Yn aml iawn mae'r paentiad ei hun yn dechrau fel dull o ddileu; bydd rhai darnau o'r pastel neu'r golosg sy'n gamgymeriadau yn cael eu dileu, megis â Tippex. Bryd hynny bydd greddf yn arwain, a bydd camgymeriadau yn troi'n ganllawiau i ddatblygu i gyfeiriad newydd. Yna ychwanegir lliw er mwyn pwyslais, neu am resymau symbolaidd. Mae'r cynfas fel petai weithiau'n erfyn am jochied o goch, a byddaf fel arfer yn tynnu'r llinell ar draws y cynfas, gan ddefnyddio'r tiwb paent fel pin ffelt, neu'n sblasio rhesen o emylsiwn gwlyb ar draws y cynfas. Byddaf yn dal i ystyried hyn yn arlunio: gwneud marc er mwyn cyfleu neges yn hytrach nag ymwneud â gwahanol raddau lliw neu â pherthynas ffurfiol a thechnegol â'r deunydd. Daw'r broses o wneud y gwaith yn ddefodol, y deunydd yn trawsffurfio i fod yn iaith symbolau cynddelwaidd.
Mae yna bwynt pan fo paentiad, beth bynnag fo yn ei gyfleu, un ai yn datblygu rhith, yn dwyll megis mewn trompe-l'oeil, neu yn datblygu'n "baentiad", yn annibynnol ar ei destun ac yn ei guddio. Rydw i am aros lle mae'r testun yn dal i fodoli, yn annibynnol ar y gwrthrych paentiedig. Mae'n debyg mai dyna pam y byddaf yn ystyried y gweithiau hyn fel "darluniau" mewn paent. Mae'n amlwg nad disgrifiadau realistig ydynt; parhânt yn farciau sy'n dweud wrthym "dyma bont" neu "dyma gwch", ond ni fyddant yn mynd y cam pellach lle mae'r darlun o gwch yn datblygu'n wrthrych paentiedig, neu lle mae medrusrwydd deheuig yn ceisio'n argyhoeddi mai cwch yn wir yw hwn, mewn gofod tri-dimensiwn oddi mewn i'r ffrâm bictiwr. Yn y dull hwn rwy'n gobeithio awgrymu mai nid y "peth" ei hun yw'r paentiad, ond y syniad neu'r myfyrdod sy'n troi'n faterol. Crybwyllant rywbeth allanol.
Gyda'r gyfres o ddarluniau pastel a golosg ar gynfas amrwd, dan y teitl cyfansawdd Panorama (Min y Tir), 1995-96, roeddwn i'n creu tirluniau dychmygol oedd eto yn debyg i leoedd go iawn, ac roeddwn am iddynt weithio fel darnau unigol neu mewn cyfres luosog, mewn bloc. Roeddwn i'n ailadrodd fy hun gan ddefnyddio iaith symbolau oedd yn deillio o'm cefndir diwylliannol i fy hun, neu yn arbennig o berthnasol i'r diwylliant hwnnw. Arddangoswyd y gyfres darluniau fel nifer o 'weithiau safle', y gellid hefyd eu datgymalu i'w gwahanol rannau, un ai i'w gwerthu (ac fe ddigwyddodd hynny), neu i'w hailosod mewn trefn wahanol. Felly tros gyfnod o amser, fe ddosbarthwyd y 'gweithiau safle' ar hyd ac ar led, trwy Gymru a thu hwnt. Byddaf yn dychmygu'r rhain fel dernynnau, fel "creiriau diwylliannol" yn hytrach nag fel darluniau mewn ffrâm yn unig. Roedd rhaid iddynt feddu ar rywbeth ychwanegol; roedd rhaid iddynt fod o ddiwylliant yn gymaint ag am ddiwylliant, fel y gallent gyfleu dyfnder hanesyddol ac, o bosib ddimensiwn ysbrydol hyd yn oed.
I ni'r Cymry, dydy'r tirwedd ddim yn bodoli ar wahân i'r hanes neu'r chwedl sydd yn gysylltiedig â hi. Yn aml iawn mae enwau lleoedd yn cyfeirio at storïau o'r Mabinogi, neu at ddigwyddiadau hanesyddol neu chwedlonol. Bydd naratif yn rhoi bywyd i nodweddion y dirwedd. Mewn llenyddiaeth, bydd digwyddiadau o bwys yn cael eu hailadrodd, a'u hadnabod, dros ganrifoedd. Un o'r rhain, fel yr awgrymais yn gynharach, yw'r ddelwedd o dir neu o ddinas yn cael ei boddi neu ei gorlifo â llifogydd; digwyddiadau sy'n gysylltiedig yng nghof pobl â mannau y gellir ymweld â nhw heddiw. Ymddengys bod y trosiad hwn o dir wedi ei foddi, o glychau'r eglwys wedi eu tewi gan donnau'r môr, yn arbennig o addas i ddiwylliant fu yn gyson dan fygythiad cael ei foddi gan gyrchoedd estron dros y mileniwm diwethaf. Mae yna enghreifftiau mewn barddoniaeth gynnar Gymraeg o ddymuniad i weld tir Cymru yn cael ei lyncu gan y môr yn hytrach na gorfod dioddef gwarth bod dan reolaeth y Sais. Ac nid yw'n ddewis mor wael â hynny, os cofiwn fod y baradwys Geltaidd, tir y bythol ifanc, nid yn yr awyr uwchben ond dan donnau'r môr. Fodd bynnag, mae'r stori am "dir wedi ei foddi" a "chlychau mud" yn golygu mwy na cholli tir yn unig - mae'r tir a'r diwylliant yn anwahanadwy - felly yr hyn sy'n cael ei gladdu yma yw ysbryd cenedl a sn ei hiaith.
Mae "tirweddau dychmygol" Panorama (Min y Tir) yn cyfeirio at y diwylliant hwn. Gallasai'r glas yn y dr sy'n codi fod yn las Jac yr Undeb sydd wedi heintio cymaint ar ein meddwl gwleidyddol. Mae'r rhesi o dai unffurf yn cyfleu'r boblogaeth ddifater. Nid dyma dirlun Cymru mewn darluniau na'r hyn a wêl yr ymwelwyr; dyma dir sydd â'i hanes a'i chwedloniaeth yn rhan ohoni. Ceisir cysylltu'r gwyliwr â rhywbeth sydd tu hwnt i'r gweledol, yn ddieithr ac eto'n gyfarwydd; gellid adnabod y ffurfiau yn y mynyddoedd o gwmpas Blaenau Ffestiniog, ar Benrhyn Llyn neu ar Fannau Brycheiniog. Mae'r dirwedd hon bob tro yn od o debyg i wraig feichiog. Pan ddechreuais ar y gyfres hon, dim ond mis oedd gan fy ngwraig Sophie hyd at enedigaeth ein mab Elis, "cyfoeth y byd" yn wir. Gyda gweithiau eraill fel Hunan mewn Tir Beichiog (1995), Gwales (Ararat) (1997), Yng Nghysgod hen Dduwiau (Ffigwr yn y dirwedd) (1997) a Ein tir (1998) gwelir yn amlycach fyth y darlun byw o agwedd fenywaidd creadigedd natur, wedi ei gysylltu'n farddonol a chwedlonol â thirwedd a mater Cymru. Dyma hefyd y fan lle ceir gwrthdaro a thrafod, cyfaddawdu a chymodi â'r duwiau rhyfelgar, yr adeiladau ffalig o waith llaw dyn, y tyrrau godwyd carreg wrth garreg, blociau adeiladu "diwylliant", nid rhan o natur ond wedi eu gorfodi arni. Rhamantiaeth farddonol ar y naill law a materoliaeth Farcsaidd ar y llaw arall. Gwlad fy nhadau yw hon, ac eto yn ddwfn ynof, hi yw'r Famwlad.
Rydw i wedi addasu, ail-ddefnyddio a newid siâp y dirwedd hon sydd mor drwm gan symbolaeth, a hynny oherwydd ei bod hwyrach yn cyfeirio at y gobeithion sydd ynom; gobeithion yw'r rhain am ddyfodol gwell, neu yn yr hen draddodiad, am aileni. Daw eto haul ar fryn. Rydw i wedi naddu llawer o'm hiaith weledol i bwynt lle mae bron â bod yn gynddelwaidd - yn symbol tragwyddol o ffrwythlondeb ac yn graffiti hogyn ysgol, yn ailddweud mewn amlinell. Tyfodd y tirluniau yn fwy o faint ac ymgorfforent fwy o dechnegau aml-gyfrwng; daeth paent olew yn ôl i fri ochr yn ochr â siarcol, pastel ac emylsiwn ar gynfasau amrwd mawr (a ddangoswyd yn arddangosfa y Prosiect Artistiaid, Ffiniau, yn Amgueddfa Celfyddyd Fodern Zagreb ac yn Oriel Gerddi Howard yng Nghaerdydd ym 1997.
Offrymau ac Ail-ddyfeisiadau; Paentiadau a Chydosodiadau
Roedd Land-Mine/ Tir Ni ym 1998 yn ymateb i gomisiwn gan Y Groes Goch Brydeinig a Swyddfa Ddyngarol Ewrop i wneud gwaith rhyngweithiol i'w ddangos wrth lansio eu hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ffrwydron tir. Darluniais dirwedd wag ar ffurf merch ar ei lledorwedd, ar gynfas mawr. Ac allan o ddarlun o blentyn wnaed gan fy mab Remi, lluniais stamp rwber y gallai pobl yn y dyrfa ei ddefnyddio i ddod â'r plant yn ôl i'r dirwedd, ac i wneud hynny'n llythrennol. Roedd llinellau terfyn a llinellau ffiniau annaturiol yn pwysleisio'r problemau achosid o'r dechrau gan drefedigaethu yn y rhannau hynny o'r byd lle defnyddir ffrwydron tir fynychaf. Mae ystyr ddwbl wrth gwrs i'r teitl.
Erbyn 1999, pan wneuthum Land-Mine/ Ein Tir 2, roeddwn wedi cael cyfle i fyfyrio ar y ddelwedd hon ac mae a wnelo'r llun fwy â'r syniad o Ynys Prydain, lle mae'r W yn dynodi Wales, E yn dynodi England ac S yn dynodi Scotland, lleoedd lle 'roedd yr iaith Gymraeg mewn bri unwaith, amser maith yn ôl. Sgrifennwyd barddoniaeth Gymraeg yn Hen Deyrnasoedd Gogleddol Rheged a Gododdin - erbyn hyn iseldir yr Alban. Mae'r gerdd hir, Y Gododdin, a briodolir i Aneirin, yn gerdd enwog sy'n coffáu ac yn galaru am y colledion ddioddefwyd yn erbyn yr Eingl yng Nghatraeth, gan gadlu o Frythoniaid o Fanaw Gododdin, ardal ar lannau deheuol Aber Gweryd. Yn Y Mabinogi, a roddwyd ar gof a chadw gryn dipyn yn ddiweddarach, adwaenir Teyrnas Brân neu Fendigeidfran fel Ynys y Cewri, ac mae'n cwmpasu holl diroedd Prydain, sy'n dwyn i gof amserau Brythonaidd-Rufeinig. Mae Land-Mine / Ein tir 2 yn adlewyrchiad o'r hanes hwn - Mater Prydain, yr ymdeimlad o fod ar wahân ac eto yn rhan o'r hyn sy'n gwneud hunaniaeth Gymreig mor gymhleth. Gyda'r paentiad hwn fel mewn gweithiau eraill, mae'r defnydd o'r lliwiau coch, gwyn a glas yn arwyddocaol mewn ffordd isganfyddol, ar wahân i'r ffaith fy mod yn hoff o'r lliwiau hynny. Mae myfyrdod o'r fath, ar yr amser arbennig hwn, yn codi mater "hawl" hynafol a chyfoes i'r tir; yn ddiarwybod fe'n hatgoffir o'r hyn ddigwyddodd yn Kosovo, lle nad oes neb yn edrych yn haelfrydig ar hanes.
Daw duwdod arall i'r golwg yn y gyfres o weithiau sy'n dwyn y teitl Yng nghysgod hen dduwiau. Mae Ianws ddauwynebog yn cwhwfan uwchben y dirwedd, yn arwyddocáu golwg yn ôl i'r gorffennol ac ymlaen i'r dyfodol ar yr un pryd. Dyma'r gyfres o baentiadau enillodd Fedal Aur Celfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1997, ac yn addas iawn, yn Y Bala yr oedd hynny. Parhaodd y presenoldeb yna, yn addas iawn, i'r gyfres hunan-esboniadol Baneri i'r Cynulliad (1998) ac i'r gwaith newydd sy'n cyhoeddi'r mileniwm newydd, Offrymau ac Ail-ddyfeisiadau (1999). Mae'r duw Brythonaidd-Geltaidd dauwynebog Ianws yn ymddangos uwchben y dirwedd a'r trigolion, yn cael eu dynodi eto gan res o dai, tai sydd â dimensiwn mytholegol, rhannol anghofiedig, yn cyniwair trwy eu bodolaeth. Y duwiau yw'r hen dduwiau Cymreig y mae olion ohonynt yn aros yng nghasgliad storïau'r Mabinogi, bellach wedi eu trawsnewid yn feidrolion arwrol. Bradychir eu tarddiad goruwchnaturiol gan eu dewrder a'u gallu anhygoel (yr un duwiau y rhoddwyd cyfeiriad newydd iddynt gan yr eglwys Gristionogol gynnar ac eto gan Fethodistiaeth Galfinaidd ac Anghydffurfiaeth, gan yr "hen Iolo" a'i ail-ddyfeisiadau Derwyddol, gan y Byd Newydd iwtopaidd, ac yn y blaen hyd y dydd heddiw).
Mae gwaith diweddar, megis y gyfres o amrywiadau thematig, Ail-ddyfeisio Gwalia, yn ymgais i ail-ddyfeisio iconau hen ffasiwn a hunaniaeth ddiwylliannol, gan gredu gwireb yr hanesydd, y diweddar Athro Gwyn Alf Williams, sef bod hanes Cymru yn un o Rwygo ac Ail-ddyfeisio.
Mae Ianws yn syllu ar y gorffennol a'r dyfodol ar yr un pryd, gan archwilio'r gorffennol er mwyn atal pob diweddglo rhag mygu ohonynt bob trafodaeth ar y dyfodol. Hwn oedd y Ianws roes ei enw i fis Ionawr, mis cyntaf y flwyddyn ac yn ein hachos ni, mis cyntaf canrif newydd a mileniwm newydd, gyda Chymru am y tro cyntaf mewn 500 mlynedd yn meddu ar elfen o hunan lywodraeth gwleidyddol. Adferwyd y wraig mewn gwisg Gymreig, fu mor aml yn y gorffennol yn symbol o fywyd teuluol digyffro ac anfygythiol, i rôl mam-dduwies, yn rhoi genedigaeth i ddyfodol sydd, i'r rhiant hwn i dri o blant, yn un gobeithiol os yn un ansicr. Hefyd caiff symbol arall o'r flwyddyn newydd, y Fari Lwyd, penglog ceffyl addurnedig gâi ei gario o dy i dy ar nos Galan mewn rhannau arbennig o dde Cymru, ei recriwtio i'r pantheon o ail-ddyfeisiadau.
Mae ffigwr Ianws yn arwyddocaol gan ei fod yn symboleiddio safle lle mae'r gorffennol a'r dyfodol yn cael eu harchwilio er mwyn rhoi perthnasedd i'r presennol. Nid ymgais yn unig i ail-greu gorffennol hanesyddol neu chwedlonol yw hyn, ond ymgais i ddal pwysigrwydd seicolegol parhaus y gorffennol ar gyfer y presennol.
Yn y paentiad diweddar Dam/Pont (1999), mae pennau Ianws, a ddatblygwyd o'r darlun Ianws y Groesffordd, fel petaent yn hofran o flaen yr argae, ac fel roeddwn i'n gweithio ar y paentiad datblygodd yr argae i gynrychioli emosiynau oedd wedi eu caethiwo ond a oedd yn dechrau gollwng trwodd; cyfeiriai hefyd wrth gwrs at foddi cwm Tryweryn ger Y Bala. Daeth pont islaw â'r dywediad "a fo ben bid bont" i'm cof sydd, ar unwaith yn fy nhyb i, yn cyfeirio at y Cynulliad Cymreig newydd. Mae'r bont isaf, sydd wedi ei gwneud o groesau, yn dangos mor fychan oedd y mwyafrif pleidleisiau o'i blaid. Ar yr adegau gorau hynny, pan fo paentiad yn datblygu'n dda, pan fo fel petai yn paentio ei hun fel y dywedodd Phillip Guston, nid yw ymddangosiad pethau megis y croesau a'r argae yn rhywbeth bwriadol. Nid oedd sôn amdanynt yn y braslun wnaed ymlaen llaw ac a ddaeth yn sail i'r paentiad. Mae'n fater o reddf a menter, menter darlunio rhywbeth ddychmygwyd mewn olew a mentro siawns o ddifetha'r paentiad, gan ymddiried yn eich greddf. Mae defnyddio gludwaith yn ddull o weithio sy'n lleihau'r risg, gan ei fod yn golygu gludio darnau o gynfas sydd â darluniau arnynt. Gallaf eu symud o gwmpas, gan dreulio oriau yn eu symud y mymryn lleiaf, ac yna hwyrach y diwrnod wedyn eu symud oddi yno yn gyfan gwbl.
Pan fo'n gweithio, pan fydd yn "edrych yn iawn", y duedd wedyn yw gweld "ystyr" ynddo, ac yna bydd y risg yn rhoi boddhad mawr; ar y funud bydd popeth yn ei le a'r cyfan yn gwneud synnwyr. Mae sut mae hyn yn digwydd yn ddirgelwch, fel y dywedodd sawl paentiwr, ond rhaid ei fod yn dangos yr isymwybod ar waith ochr yn ochr ag adnabyddiaeth a dehongliad ymwybodol. Tra'n gweithio (yn dda) ar baentiad, fe fydd yna godi a gostwng llwyr a chyson a chyfamserol bron rhwng y ddau gyflwr o ymwybyddiaeth. Does ryfedd bod artistiaid yn teimlo'n aml fod pwerau allanol yn eu llywio. Felly, yn Dam/Pont er enghraifft, bydd cyfeiriadau symbolaidd at hanes ac at ddigwyddiadau cyfoes yn graddol ymddangos. (Gellir dadlau mai hwn oedd yr un foment hanesyddol dyngedfennol mewn hanes modern a arweiniodd at weithredu gwleidyddol ac at gonsensws ar yr angen am hunan-lywodraeth mewn gwleidyddiaeth Gymreig). Bydd eraill yn debyg hefyd o weld cwch, tent, ffenics neu löyn byw, y dirwedd Cymreig, wedi ei gynnwys mewn delwedd sydd yn ei hanfod yn amlinell syml sy'n ein tywys ar hyd ffordd tua'r dyfodol. Mae'r teitl wedi ei ddewis i ddileu unrhyw deimlad o ryfeddod; wedi'r cwbl mae'r gair yn rheg ffrwydrol yn y Gymraeg a'r Saesneg,
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Ogwr 1998, arddangosais waith ar gyfer wal, cydosodiad wnaed o goed a adenillwyd, darluniau bychain, modelau bach o wraig Gymreig a ddarganfyddais mewn sêl cist car, gyda darlun o Ianws ddauwynebog, mewn sialc ar lechen, yn ganolbwynt i'r cyfan. O'i osod ar y wal, ymdebygai i silff ben tân, gan dynnu ei gyfeiriadaeth o leoliad a phwysigrwydd canolog y lle tân i'r teulu traddodiadol. Roeddwn i'n cyffelybu'r silff i ryw fath o allor deuluaidd, wedi ei "ddodrefnu" â'i offrymau - gwrthrychau gwerthfawr a phortreadau teuluol - rhyw fath o addoli cyndadau hwyrach. Ar ôl ychwanegu "ffedog" o gynfas coch lle'r arferai tân fod, dechreuodd ymdebygu i wisg y "gwragedd Cymreig" eponymaidd. Fe'i gelwais yn Gwir Ddychmygol (y wisg Gymreig), gan arwyddocáu o bosibl, natur ddychmygol ein hunaniaeth yn gymaint â'r wisg a ddychmygwyd yn rhannol. Roedd yn ddarn poblogaidd a chafodd groeso gan gynulleidfa a welai ynddo yr hiwmor a'r perthnasedd. Tra roedd y ffotograffydd Marian Delyth yn recordio'r gwaith, perswadiwyd dwy foneddiges, oedd wedi eu gwisgo yn seremonïol yn y wisg, i sefyll wrth ochr y gwaith, a dyna gyfannu'r cylch syniadol yn grwn. Daeth y gwaith hwn yn fan cychwyn i gyfres newydd o ddarnau wal tri dimensiwn, yn ymgorffori delweddau iconig oedd wedi eu darlunio a'u paentio, gydag effemera o seliau cist ceir, wedi eu dewis yn ofalus. Hwyrach y gellid codi'r addurniadau rhad hyn o'r wraig Gymreig i lefel y Forwyn Fair Gatholig mewn darnau allor Ciwbaidd - duwies fodern yn adennill ei nerth ac yn gwneud offrymau i'r dyfodol.
Gan barhau â'r thema hon, rwyf yr un pryd ag ysgrifennu hwn, yn myfyrio ar y posibilrwydd o greu delw tri dimensiwn fyddai'n cyfuno nodweddion y "wraig Gymreig" gyda'r Ianws a'r Fari Lwyd. Felly y daw Mariona, y byddaf yn ei dychmygu, nid fel cerflun fel y cyfryw, ond fel atgof o wrthrych lled ddefodol, un fyddai'n cael ei hestyn allan ar adegau arbennig o'r flwyddyn. Bydd crinolin ei sgertiau wedi eu gwneud o fandiau metel, ei chorff o foncyff coeden, (un wedi ei ffurfio'n berffaith, ac un y deuthum eisoes ar ei draws, yn nodweddiadol ddamweiniol). Hyd yn hyn, mae'r pen(nau) yn ddirgelwch i mi. Gallaf ei dychmygu felly, wedi ei chodi ar lwyfan uchel sydd wedi ei orchuddio â chynfas coch ac, o bosibl, ei addurno â darluniau bychain ac effemera.
Mae'r gorlif o waith graffeg, testun a darlun ar bapur neu gynfas, y tu hwnt i gonfensiynau'r cyfrwng, i fewnosodiadau a gwrthrychau tri dimensiwn, yn arwain yn naturiol at waith safle. Rhydd hyn naws i'r gwaith, wedi ei fynegi â gwrthrychau, testunau ac adnoddau eraill mwy traddodiadol sy'n gyffredin i'r ymarfer o wneud gwaith safle. Rwy'n cael fy nenu llai gan gelfyddyd mewnosodiadol Ewropeaidd na chan ei gymar Caribïaidd neu Ladin-Americanaidd sydd ynghlwm fwy wrth y cymdeithasol, y diwylliannol a'r politicaidd. Ar un ystyr mae hwn wedi ei gysylltu'n agosach â'r byd real, trwy broses barhaus o wneud gwaith safle, un ai yn yr Eglwys Gatholig neu yn y darnau allor domestig Affro-Caribïaidd. Yn fy nghydosodiadau i, ail-ymddengys nifer o symbolau a ddefnyddiwyd yn olynol dros y blynyddoedd, ar ffurf tri dimensiwn - bydd ysgolion go iawn yn cynnal silffoedd pen tân. Yn Salem (Capel /Ysgol), mae'r silff ar siâp cwch, a gosodir darluniau bychain ar gynfas ar y mur sy'n amgylchynu'r darn "icon" canolog, gyda'r cyfan wedi ei "fframio" â siapiau du wedi eu gludio'n uniongyrchol i'r wal. Rhydd y teitl Cymraeg arlliw o'r symbolaeth, gan fod y gair Cymraeg "ysgol" yn gyffredin i "school" a "ladder", ac felly'n awgrymu proses gynyddol o ddysg ac ymdrech. Cyfeiria "Capel" at natur ddiaddurn y gwaith hwn, o'i gyferbynnu ag addurnwaith mwy trafferthus y darn tebyg i ddresel, Nodiadau maes. Datblygodd y darn olaf hwn o'r syniad a gyflwynwyd gan y beirniad a'r damcaniaethwr James T. Clifford, pan ddywedodd :
Hwyrach nad oes droi'n ôl i unrhyw un i'w famwlad, dim ond nodiadau maes ar gyfer ei hail-ddyfeisio.
Ar un ystyr, rydym i gyd yn ymbellhau fwyfwy oddi wrth ein mamwlad, hyd yn oed tra'n byw ar ei thir. Bydd cist bacio lluniau a achubwyd ac a berthynai ar un amser i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn llestr ar gyfer cludo neu ddiogelu dychmygol. Fe'i harddangosir fel darn o ddodrefnyn digon tebyg i ddresel, gyda'r gweithiau celf allai fod wedi eu cynnwys ynddi (y "nodiadau maes ar gyfer ail-ddyfeisio") yn cael eu harddangos arni neu o'i chwmpas, yn ddigon tebyg i'r defnydd wneir heddiw o'r dresel Gymreig, mwy addurniadol na defnyddiol - darn amgueddfaol domestig yn cynnwys ac yn arddangos casgliad o drysorau teuluol.
Mae rhyw bresenoldeb tywyllach ac eithaf garw yn Salem, nid yn gyfan gwbl fel y cofiaf i brofiad plentyn o fynd i'r capel. Cyfeiria fwy at naws Salem, y paentiad enwog gan Curnew Vosper, gydag anystwythder tybiedig a dylanwad Piwritanaidd y capeli a'r hen drefn addysgol. O berthyn yn wastadol i'r gorffennol, ymddangosai hyn i blentyn (ac yn wir i oedolyn heddiw) fel rhywbeth digyfaddawd o lym. Dyma anghydffurfiaeth ar ei waethaf anfaddeugar. Ond eto, darparodd ddigon o ddeunydd ar gyfer ail-ddyfeisio. Y gwir yw, yn ol y ddamcaniaeth ddiweddar, fod gormod o gapeli wedi eu codi gan fod yn rhaid i bob enwad gael ei gapel ei hun ym mhob pentref, a dim ond canran o'r boblogaeth gâi ei meddiannu gan ddysgeidigaeth grefyddol. Mae mor wir â hanes ys dywed Dylan Thomas.
Bydd casglu syniadau yn digwydd o sawl ffynhonnell, ac fel yr awgrymais, bydd hyn yn cynnwys darllen. Er bod y sefyllfa'n gwella, rydym o hyd yn brin o ddeunydd ysgrifenedig am gelfyddyd yng Nghymru. Yn ddiweddar, detholais a chyflwynais gasgliad o draethodau gan amryw 'sgrifennwyr ac artistiaid yn delio â rhai artistiaid arbennig (Certain Welsh Artists), sef y rhai hynny fu yngln â'r Estheteg Warcheidiol, y soniwyd amdano yn gynharach. Mae Estheteg Warcheidiol yn esbonio safbwynt, lle mae gwaith yr artist, yn fwriadol neu yn yr is ganfyddiad, yn tynnu ar bethau penodol mewn diwylliant Cymreig, un ai fel sylwadaeth llwyr wleidyddol neu un gymdeithasol, ar hunaniaeth heddiw; neu dan ddylanwad lleoliad a chefndir, mewn gair : ffurfiant. Fel y gwelsom eisoes, datblygodd Raymond Williams ddamcaniaeth a seiliwyd ar Ffurfiant a Chyfliniad (Formation and Alignment). I ddilyn damcaniaeth Williams, gallem ddweud mai "cyfliniad" gydag elfennau o "ffurfiant" sy'n gwneud gwaith yr artistiaid hyn yn benodol i le arbennig. Hwyrach mai'r geiriau Cymraeg gorau am Estheteg Warcheidiol yw "Cof Cenedl"; gallai hyn alw ar "gof llwythol" neu "gof pobl gyfunol". Mae'r drafodaeth sydd yn y llyfr yn troi o gwmpas ystyr a dehongliad y geiriau hyn.
O'm rhan i, a gobeithiaf fod y rhagymadrodd i'r gyfrol yn cadarnhau hyn, nid cangen o'r diwydiant treftadaeth yw estheteg warcheidiol (ac rwy'n cynnwys fy ngwaith fy hun yn hyn), nid cadwraeth o'r pethau a fu ond rhywbeth byw. Fel mewn "Cof Cenedl", rydym yn sownd wrth ddarn hir o linyn ac yn rhan ohono, (h.y. ni yw'r llinyn ar y pwynt arbennig hwn mewn amser), gan fynd ymlaen i'r dyfodol. Fel y dywedodd y bardd Gerallt Lloyd Owen:
Nid yw Hanes ond ennyd;
A fu ddoe a fydd o hyd. 12
|